GlynJONESHydref 30ain 2025, hunodd yn sydyn ond yn dawel yn Ysbyty Gwynedd yng nghwmni ei deulu yn 90 mlwydd oed o Gerlan, Lon Cilgwyn, Llannerch-y-medd.
Priod annwyl y ddiweddar Buddug, tad balch a chariadus Barry, Llinos a Dyfed, taid gofalus a thriw Lowri, Catrin, Gethin a Guto, tad yng nghyfraith groesawgar Aloma, Eifion a Claire. Gwelir ei golli a bydd bwlch enfawr ar ei ôl.
Cynhelir angladd ddydd Sadwrn Tachwedd 22ain, gwasanaeth cyhoeddus yn Eglwys Santes Fair, Llannerch-y-medd am 1.30 y prynhawn. Rhoddir i orffwys ym Mynwent y Llan.
Blodau gan y teulu agos yn unig ond derbynnir rhoddion er cof yn ddiolchgar i'w rhannu rhwng Peldroed Ieuenctid Llannerch-y-medd ac Ambiwlans Awyr Cymru drwy law'r ymgymerwr Melvin Rowlands Capel Gorffwys Minafon, Ffordd Glanhwfa, Llangefni, Ynys Môn, LL77 7FE Rhif Ffôn: 01248 723111
Keep me informed of updates